• Canolfan Casgliadau Amgueddfa Abertawe, Glandŵr - 12th October 2016
    Tocynnau £12

Y llynedd roedd pawb wrth eu bodd gyda noson Pedwarawd Sinfonia Cymru yn Volcano. Eleni maen nhw’n ôl gyda chyngerdd hudolus sy’n mynd â ni ar daith gyfrin gerddorol o gwmpas byd rhyfedd a rhyfeddol Canolfan Casgliadau Amgueddfa Abertawe yng Nglandŵr. Bydd Sinfonia Cymru’n perfformio première byd darn newydd o gerddoriaeth sydd wedi’i greu ar gyfer Gŵyl Ryngwladol Abertawe gan gyfansoddwr Cymreig dawnus, Gareth Moorcraft, a’r awdur o Abertawe Lydia White. Bydd hyn yn digwydd ynghanol arteffactau fel bad achub, hen gar heddlu a gwn saethu awyrennau. Bydd y drysau’n agor am 7pm i chi gael cyfle i edrych o gwmpas y gofod unigryw, rhyfeddol hwn.

7:30yh