• Stoller Hall, Manceinion - 24th October 2019
    Tocynnau
  • Neuadd Goffa Pontyberem - 25th October 2019
    Tocynnau
  • Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd - 26th October 2019
    Tocynnau
  • Wiltshire Music Centre, Bradford Upon Avon - 27th October 2019
    Tocynnau

Os oeddech chi’n meddwl mai blwch gwasgu yn unig oedd yr acordion, James Crabb yw’r dyn i newid eich meddwl. Pan ddechreuom wrando ar eu recordiadau yn y swyddfa, fe’n trawyd gan y modd y mae ei ddull o chwarae yn cyfuno gwychder technegol gyda sensitifrwydd cerddorol arbennig. Mae James yn dod â’r acordion yn fyw ac, yn ei ddwylo ef, mae safle’r offeryn yn y gerddorfa yn teimlo’n hollol naturiol. Yn ei famwlad fabwysiedig, mae James wedi creu partneriaeth ffrwythlon gyda’r Australian Chamber Orchestra, ac mae llawer o’r gwaith wedi ei osod ar eu cyfer. Mae’n frwd iawn i weithio gyda chwaraewyr ifanc Sinfonia Cymru, a chyda’r rhaglen amrywiol sydd ar y gweill – gan gynnwys Piazzolla, Vivaldi ac Arvo Pärt – mae’r cyngherddau hyn yn argoeli i fod yn
arbennig.

Rhaglen:
Astor Piazzolla (trefniant Crabb): Libertango; Romance del Diablo; La Muerte del Angel
Arvo Pärt: Fratres
Antonio Vivaldi (tr. Crabb): Concerto RV542 in F-Major
Kalevi Aho (tr. Crabb): Kolme Tangoa
Antonio Agri/Jose Carli (tr. Crabb): Desde Adentro
Astor Piazzolla (tr. Crabb): Aconcagua Concerto

Dyma ddolen i wylio James yn chwarae Romance del Diablo. Bydd gennym ni ensemble llawer mwy – pymtheg darn – na welwch chi yn y clipiau rhain.

Unawdydd             James Crabb, acordion glasurol
Arweinydd             Caroline Pether