Mae corau meibion Cymreig yn adnabyddus yn rhyngwladol ac yn draddodiad sy’n ymestyn yn ôl i’r unfed ganrif ar ddeg. Yn y cyngerdd arbennig yma wedi’i guradu gan Gyfarwyddwr Artistig Aloud, Tim Rhys-Evans MBE, bydd rhai o gorau meibion gorau Cymru yn dod at ei gilydd i ddathlu’r treftadaeth celfyddydol a cherddorol hynod yma.

Bydd mwy na 300 o leisiau’n cael eu darparu gan Only Men Aloud, Only Boys Aloud a’r 2016 Academi Principality Only Boys Aloud wrth iddyn nhw ymuno â thri o gorau meibion mwyaf arbennig Cymru, Côr Godre’r Aran, Côr Meibion Pontarddulais a Chôr Undebol Ar Ôl Tri am siwrnai hudolus drwy fil o flynyddoedd o’r traddodiad corawl Cymreig.

 

 

 

Screen Shot 2016-03-22 at 16.34.02