• Neuadd Hoddinott, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd - 21st March 2020
  • Neuadd Hoddinott, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd - 21st March 2020
  • Neuadd Hoddinott, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd - 22nd March 2020

I ddathlu 250 mlynedd ers geni Beethoven, rydym wrth ein boddau i gyflwyno’r pianydd hynod dalentog, Pavel Kolesnikov, a fydd yn chwarae pob un o’r pump concerto piano sydd gan Beethoven mewn un penwythnos. Dyma artist arall sy’n meddu ar sensitifrwydd eithriadol wrth chwarae, nodwedd hynod o ystyried ei fod mor ifanc. Mae’n bosib i chi fod wedi clywed Pavel yn Hydref 2018, pan roedd yn sefyll i mewn dros Paul Lewis yn y Coleg Cerdd a Drama. Mae hwn yn gyfle prin i glywed y concertos, ynghyd â phrofi datblygiad ac aeddfedrwydd cynyddol dull Beethoven o ysgrifennu concerto. Er eu bod wedi cael eu hysgrifennu dros gyfnod o 15 mlynedd, mae’r gwahaniaeth rhwng y concertos yn drawiadol, yn enwedig rhwng y ddau ddarn cyntaf a’r tri darn olaf.  Rydym wedi paru Pavel gyda’r arweinydd Gábor Takács-Nagy, sy’n ffefryn gyda’r gynulleidfa a bob tro’n creu argraff gyda repertoire clasurol. Bydd hwn yn benwythnos arbennig a chofiadwy iawn.

 

Sadwrn 21 Mawrth, 3.00pm: Concerto Piano Rhif 1 a 2

Sadwrn 21 Mawrth, 7.30pm: Concerto Piano Rhif 3 a Symffoni Rhif 2

Sul 22 Mawrth, 2.00pm: Concerto Piano Rhif 4 a 5

 

Fedrwch wylio Pavel yn chwarae concerto gan Beethoven ar YouTube.

 

Arweinydd         Gábor Takács-Nagy

Unawdydd        Pavel Kolesnikov, Piano

Blaenwr             Caroline Pether

 

Mae’r rhaglen hon yn ran o Beethoven 250, dathliadau o gwmpas Caerdydd o Beethoven yn 2020.