• CBCDC, Caerdydd (7.30yh) - 16th March 2017
    Tocynnau
  • Neuadd Goffa Pontyberem (7.30yh) - 17th March 2017
    Tocynnau
  • Glan yr Afon, Casnewydd (7yh) - 18th March 2017
    Tocynnau
  • Theatr Clwyd, Mold (7.30yh) - 19th March 2017
    Tocynnau

Bydd yr arweinydd enwog Gábor Takács-Nagy a’r unawdwr ifanc cyfareddol Jess Gillam yn ymuno â’r gerddorfa siambr flaenllaw Sinfonia Cymru i gyflwyno cerddoriaeth gan Mozart, Prokofiev a Nyman.

Bydd y rhaglen ddyrchafol hon yn arddangos mawredd di-ben-draw Mozart, melodïau unigryw Prokofiev a gorfoledd calonnog Where The Bee Dances gan Nyman.

Bydd cymysgedd clasurol o ieuenctid a phrofiad ar y llwyfan, wrth i’r unawdwr ifanc eithriadol Jess Gillam a cherddorion proffesiynol ifanc dawnus Sinfonia Cymru gael eu harwain gan y byd-enwog Gábor Takács-Nagy.

Mae Gábor Takács-Nagy, sy’n Gyfarwyddwr Cerddorol Camerata Manceinion, Athro Pedwarawd Llinynnol yn yr Haute Ecole de Musique yn Genefa, a Chadeirydd Rhyngwladol Cerddoriaeth Siambr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd Gogledd Lloegr, yn arweinydd ac athro mawr ei glod.

Cyrhaeddodd Jess Gillam rownd derfynol cystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC yn 2016, gan syfrdanu’r gynulleidfa â’i pherfformiad hudolus o Where The Bee Dances gan Nyman. Bydd Jess yn ymuno â’r gerddorfa i ailadrodd y darn hwn.

Mae Sinfonia Cymru yn falch iawn o gael cwmni dau gerddor mor eithriadol o ddawnus.

Prokofiev Classical Symphony in D (No.1) Op. 25
Nyman Where the Bee Dances
Mozart Symphony No. 39 in E-flat Major K. 543

Arweinydd Gábor Takács-Nagy
Sacsoffon Jess Gillam (a gyrhaeddodd rownd olaf cystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC yn 2016)