Yn dilyn cyfres y tymor diwethaf, byddwn yn dychwelyd i’r cyn-adeilad diwydiannol prydferth Tramshed Tech i gyflwyno cyfres newydd o gyngherddau â rhaglenni eclectig, gyda thafluniadau ffilm a gosodweithiau digidol gan gyfansoddwyr sy’n dod i’r amlwg.

Bydd y gyfres newydd yn dechrau gyda ffrwydrad o gerddoriaeth i’r clarinet a’r llinynnau gan Penderecki, Handel, Martinu a Hindemith. Wedi’i guradu gan Benjamin Mellefont.

Handel Lascio ch’io pianga
Penderecki Quartet for Clarinet and String Trio
Martinu Madrigals
Hindemith Clarinet Quintet, Op.30